“A Bard’s-Eye View of the U.S.A”

“I’m hardly living. I’m just a voice on wheels.”

Mae’n 1950, a teithia Dylan o ddinas i ddinas, o gampws i gampws, o far i far, o barti i barti, ar draws yr Unol Daleithiau a Chanda gan berfformio 107 o ddarllediadau cyhoeddus –nid yw Dylan yn darlithio – a chaiff ei ddifyrru a’i fwydo gan American poets, writers, critics, hanger-s on, some pleasant, all furiously polite and hospitable. Yn ogystal â llenwi’i bocedi gweigion, mae’r tripiau i fod i ysbrydoli Dylan, ond mewn gwirionedd tynna America ef oddi wrth ei ysgrifennu ei hun; mae e mor flinedig fel ei fod quite incapable of writing a word.

Er yr holl chwedlau a fydd yn cael eu hadrodd yn hwyrach ynglyn â blynyddoedd olaf Dylan yn America, naill ai wedi ymlâdd, yn sâl neu wedi meddwi, pan mae Dylan yn cyrraedd y llwyfan mae’n gwneud darlleniad medrus a hynny gan amlaf yn ddarlleniad o weithiau beirdd eraill megis Auden, Yeats, Vernon Watkins, W.H. Davies a Hardy – gyda chyn lleied â phosib o’i gerddi ei hun. Llwyddiant Dylan yn America yw rhoi llais poblogaidd a chyhoeddus i farddoniaeth.

Yn ogstal â degau o ddarlleniadau, recordia’r record fasnachol gyntaf o’i waith gyda Caedmon Audio, a pherfformir ‘Under Milk Wood’ ar y llwyfan am y tro cyntaf gydag ef ei hun yn adrodd a chyfarwyddo. Ffynna Dylan y darllenwr barddoniaeth a Dylan y rhamantydd yn ystod y teithiau llenyddol yma, ond caiff Dylan y gŵr, y mab a’r tad, a’r bardd ei esgeuluso.

Dechreua Dylan ar ei daith olaf, drasig o America yn Hydref 1953 – taith y mae ei wraig a’i fam yn ceisio’i hatal oherwydd ei iechyd anwadal. Mae rhyw chwedl yn cwmpasu dyddiau olaf Dylan yn y terrible, beautiful, dream and nightmare city honno. Ar y 9fed o Dachwedd 1953 ag yntau’n dal i fod mewn coma, mae Dylan yn marw yn Ysbyty St Vincent, Efrog Newydd. Ai’r yfed trwm a’i honiad ei fod wedi yfed eighteen straight whiskeys sydd ar fai? Beth am esgeulustod meddygol? Neu efallai dyna felltith y bardd roc a rôl.