Casgliad Buffalo: Llawysgrifau

Mae Dylan yn grefftwr, wedi meddwi ar iaith ac wedi’i swyno gan eiriau. Caiff geiriau eu dethol yn ofalus o restrau o eiriau sy’n odli neu’n lled-odli i serennu yn un o’i gerddi diamser; cânt eu mowldio a’u cyfnewid rhwng y cannoedd o daflenni gwaith tan iddynt ddarganfod eu gorffwysfa dragwyddol.

Wrth ysgrifennu ei gerdd fwyaf bersonol ac un o’i gerddi enwocaf ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’, mae Dylan yn brithio’r tudalennau bach o bapur â fersiynnau amrywiol o’r odlau cyfarwydd, yn peri i’r geiriau ddawnsio i’w alaw alarnadus.

Defnyddia Dylan yr un broses drylwyr wrth ddarllen dros ei stori ddiweddaraf ‘Patricia, Edith and Arnold’. Mae’n cyfnewid y geiriau â’i gilydd, yn dileu ac yn ychwanegu tan fod ganddo stori gyflawn, berffaith.

Mae’n amlwg fod Dylan yn fardd sy’n gweithio’n galed, ond mae’n amhosib anwybyddu’r ochr chwareus i’w bersonoliaeth. Amlyga ei hun yn y storïa dros beint, yn y rhyddiaith ddoniol ac yn y dwdls sy’n addurno’r llythyrau a’r taflenni gwaith.