Casgliad Buffalo: Llyfrau Nodiadau

Yn ei ystafell wely fach yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe mae Dylan ifanc yn llanw llyfrau nodiadau gyda cherddi. Bydd yn llenwi innumerable exercise books full of poems, ond o’r rheiny, dim ond pedwar bydd yn goroesi. Rhwng y cyfnod hwn a’i benblwydd yn bedair ar bymtheg, bydd Dylan yn ysgrifennu tua dau gant o gerddi a fydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer ei dair cyfrol gyntaf o farddoniaeth, ‘18 Poems’, ‘Twenty-Five Poems’ a ‘The Map of Love’.

Yn 1941, mae Dylan yn brin ofnadwy o arian, ac mae’n gwerthu pedwar o’i lyfrau nodiadau. Mae’n sôn amdanynt mewn llythyr, gan eu disgrifio fel dogfennau sy’n dangos the growth of poems over a period of just over a year, one extremely creative, productive year, in all their stages and alterations, and – in many instances – show how quite a different poem emerges, years later, from the original.