“Yours, Dylan”

“I am not going to apologise for my very egotistical letter. Letters, I maintain, between the intervals of removing a half-chewed cigar from my pocket to my mouth, should always be egotistical.”

Cesglir ynghyd dros fil o lythyrau a ysgrifennwyd gan Dylan yn ‘Dylan Thomas: The Collected Letters’, mil o lythyrau ffraeth, gwefreiddiol, swynol, weithiau’n fochaidd, ond wastad wedi eu hysgrifennu’n ofalus sy’n creu portread coeth a chyfareddol o’r dylan ac o’r llenor.

Mae tua chant o’r llythyrau hyn yn awr yn y Llyfrgell.  Maent yn adrodd stori y mab a’r gwˆ r cariadus, y ffrind triw a’r athrylith doniol. Ynddynt cawn gwrdd â’r bardd ifanc, y gweithiwr diwyd a’r awdur tlawd. Maent yn sôn am ei gariad tuag at Gymru, ei ymddiheuriadau niferus, ei feirniadaeth ar farddoniaeth fodern, ei waith a’i deimladau ynglŷn â’r Rhyfel.  O’r rhannau disgrifadol tragwyddol ohono’i hun a’i amgylchfyd i’r llythyrau cardotol sydd â’r sglein mwyaf rhyfeddol arnynt, maent wedi’u cyfoethogi â hunan-barodi a dychymyg diben-draw Dylan. Maent yn cynnig allwedd i ni i agor ei farddoniaeth. Noda mewn llythyr at ei gariad cyntaf Pamela Hansford Johnson much of the poetry is impossibly difficult; I’ve asked, or rather told, words to do too much; it isn’t theories that choke some of the wilder and worser lines, but sheer greed.

Mae Dylan yr ysgrifennwr llythyrau yn ddyn cymhleth iawn, dyn nad yw mor siwr o’i hun ag y dymunai fod a dyn nad yw’n cuddio’i ffaeleddau. Yn y llythyrau yma down i adnabod y dyn digwilydd, barddol, dymunol, tanbaid, trist, anobeithiol a rhyfeddol.