Tafarn y Beirdd

“I fell in love — that is the only expression I can think of — at once, and am still at the mercy of words, though sometimes now, knowing a little of their behaviour very well, I think I can influence them slightly and have even learned to beat them now and then, which they appear to enjoy.”

Fel bardd yr adnabyddir Dylan gan amlaf, a chreda ef ei hun fod ei farddoniaeth yn bwysicach na dim arall. Gwelir ef yn aml yn pwyso ar ryw far neu’i gilydd, gyda Woodbine yn hongian o’i geg a pheint o gwrw mwyn yn ei law, ond yr hyn sy’n cael ei esgeuluso yn amlach na pheidio yw’r ffaith fod ganddo feiro yn ei law arall, yn barod i nodi syniadau ar gyfer cerddi a storïau.

Yn ôl ei ffrindiau niferus, nid yw Dylan byth yn ysgrifennu dan ddylwanwad y ddiod gadarn. Mae’n fardd manwl a weithia’n galed yn consurio geiriau newydd ac yn llunio rhestrau maith o eiriau y bydd yn eu defnyddio i ganfod y gair perffaith ar gyfer ei gerddi. Yn berffeithydd, mae’r cerddi amherffaith yn cael eu gwrthod. Cas gerdd Dylan, ‘Paper and Sticks’, yw’r unig gerdd i ymddangos mewn cyfrol o’i waith ond i gael ei hepgor yn hwyrach yn ‘Collected Poems 1934-1953’. Defnyddia Dylan ei farddoniaeth fel modd o gyfathrebu hefyd, fel yn y ‘Letter to Loren’, llythyr un ar ddeg tudalen o hyd wedi ei ysgrifennu’n gyfan gwbl mewn rhyddiaith farddonol.

Disgrifir ei gerddi hwyrach fel ei farddoniaeth orau – neu “miracels of creation” fel y soniodd Vernon Watkins amdanynt unwaith – cerddi fel ‘Poem on His Birthday’ a’r ‘Elegy’ anorffenedig i’w dad. Cyfansoddir y ddwy yn ei Sied Ysgrifennu’n edrych dros enau afon Taf, a’r ddwy erbyn hyn yn rhan o’i archif a yn y Llyfrgell.