A Story

“You ask me to tell you about myself, but my life is so uneventful it is not worth recording. I am a writer of poems and stories.”

Nid yw’n gyfrinach fod Dylan yn gweld ei farddoniaeth yn bwysicach na’i ryddiaith, ond cariad at eiriau sydd gan Dylan, geiriau’n cael eu defnyddio mewn unrhyw ddull ac unrhyw fodd.  Storïau very young and romantic and violent yw’r storïau cynnar, fel ‘The Vest’ a ysgrifenna pan yn ugain mlwydd oed, a ‘Prologue to an Adventure’, rhyw fath o ‘Taith y Pererin’ o chwith. Maent yn debyg o ran thema, arddull, iaith ac awyrgylch i farddoniaeth gynnar Dylan. Maent yn storïau tywyll ac afiach gyda’u sylfeini mewn byd swrreal bron, ond sydd yn bendant wedi’u hysbrydoli gan bentrefi Cymreig a’u trigolion.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae’r storïau hwyrach megis ‘A Story’ neu ‘The Outing’ – stori olaf a mwyaf poblogaidd Dylan – yn dangos ei ddawn am hiwmor a pharodi ond yn cadw at ei ddwyster barddonol. Mae stori’r daith gynyddol ddigrif ar siarabáng i Borthcawl, neu fel mae’n digwydd taith grwydo tafarnau ar draws Cymru, yn annhebyg i’r cerddi am eu bod yn ddoniol, yn ffraeth ac yn gartrefol. Comedi hiraethus ydyw sy’n frith o steil rhythmig nodweddiadol y bardd gydag arsylwadau doniol, wedi’u hysgrifennu â gofal a phleser.  Yn ei hanfod, rhyddiaith bardd yw rhyddiaith Dylan.