“Weak or Strong?”

Yn yr Arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol yn Llundain ym Mehefin 1936, cariodd Dylan gwpanaid o gortyn wedi ei ferwi o gwmpas gydag ef, yn gofyn i’r dorf a fyddai’n well ganddynt ef yn gryf ynteu’n wan? Datganodd I am not, never have been, never will be, or could be for that matter, a surrealist. Ond roedd Dylan yn gwerthfawrogi celfyddyd. Tueddai i droi o gwmpas y ‘teip’ artistig a gafodd eu hysbrydoli ganddo, a byddai ef ei hun yn aml â phensel, pastel neu frwsh paent yn ei law.

Er mai prin iawn yw’r peintiadau sydd wedi goroesi, rydyn ni’n gwybod bod Dylan yn hoff o beintio gan iddo gyfeirio at rhai o’i weithiau mewn llythyrau. Yr hyn sydd wedi goroesi ar gefn llythyrau a llawysgrifau yw dwdls Dylan, o hunanbortreadau haniaethol i ferched swrreal yn dawnsio a rhai sgribladau mwy amheus eu natur.