Casgliad Buffalo: Llythyrau

Wrth farddoni wrth ei ddesg, mae hefyd yn ysgrifennu llythyrau di-ri at ei ffrind, a llenor arall, Pamela Hansford Johnson, un y bydd yn cael perthynas â hi ar ôl ei chyfarfod wyneb yn wyneb yn 1934. Mae’r llythyrau yma’n trafod popeth o’r Gŵyr i’w drwyn cam, y llyfrau yn stydi ei dad i’w arddull ysgrifennu a’r defnydd o ddelweddau yn ei waith.