Gwaith Bara a Chaws

Ar sawl achlysur disgrifia Dylan ei waith sy’n talu – y sgripitau ffilm a’r darllediadau radio – fel gwaith bara a chaws sy’n ei atal rhag gwneud yr hyn y mae wrth ei fodd yn ei wneud, barddoni.  Mae Dylan wedi bod yn hoff o’r sinema erioed, a bydd yn mynd i’r pictiwrs gyda Tom Warner yn rheoliadd ar brynhawniau Llun. Mewn llythyr at ei Ewythr Arthur  yn 1941, sonia am y pleser a gafodd o wylio’r ffilm Disney newydd, Dumbo.

Yn ystod y Rhyfel, yn hytrach nag ymuno â’r ymdrech as a small tank, cyflogir Dylan gan Strand Films i ysgrifennu sgriptiau ffilm dogfen a phropoganda ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth. Ei ffilm bropoganda fwyaf enwog yw ‘Our Country’, darlun o’r rhan y mae Prydain yn ei chwarae i ennill y Rhyfel.

Er bod ysgrifennu’r sgript yn tynnu o’r amser sydd ganddo i farddoni, mae Dylan yn cadw at ei faniffesto yn yr ystyr bod the words were written to be spoken & heard, & not to be read. Mae’r ffilmiau llun mawr yn trin a thrafod pynciau hanesyddol a gwleiddyddol eu natur, megis ‘The Shadowless Man’, y dark and fantasic romance of the German 1830s, na fydd byth yn cyrraedd y sgrin fawr.

Mae gwaith Dylan ar gyfer radio fel awdur, beirniad, adroddwr, actor a darllenydd barddoniaeth yn llwyddiannus oherwydd ei fod mewn cytgord â sŵn geiriau a’i fod yn sensitif i’w pwysigrwydd. Un o hoff awduron Dylan yw Charles Dickens, awdur a oedd yn berfformiwr poblogaidd o’i waith ei hun hefyd. Wrth ysgrifennu ar gyfer y radio, ac yn wir yn y gweithiau rhyddiaith, mae gan Dylan y cyffyrddiad gwerinol sy’n gwneud ei waith yn boblogaidd ac o fewn cyrraedd pob math o gynulleidfaoedd.